Amos 9:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd a gyffwrdd â'r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a'r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi; a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil; yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd ef sy'n cyffwrdd 'r ddaear, a hithau'n toddi, a'i holl drigolion yn galaru; bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil, ac yn gostwng fel afon yr Aifft;