Colossians 1:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn yw gwir‐ ddelw yr anweladwy Dduw, con t enid pop creatur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn yw llun y Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greedigaeth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn yw delw’r Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greadigaeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n dangos yn union sut un ydy'r Duw anweledig — y ‛mab hynaf‛ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig yr holl greadigaeth;