Colossians 1:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ganto ef y creawyt pop dim, a’r ys ydd yn y nef oedd, ac ys ydd yn y ðaear, pethæ gwel edig ion, ac angweledig ion: ai Thronae, ai Arglwyddiaethae, ai Tywysogaethae, ai Meddiannae, pop dim a’ greawyt ganto ef ac erddo ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys Ynddo Ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r rhai anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai awdurdodau; yr oll, Trwyddo Ef ac Iddo Ef y’u crewyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r pethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau ai arglwyddiaethau ai llywodraethau ai awdurdodau; pob peth a grewyd trwyddo ef ac erddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i'w weld, a phopeth sy'n anweledig — y grymoedd a'r pwerau sy'n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i'w anrhydeddu e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys ynddo ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau, ai arglwyddiaethau, ai llywodraethau, ai awdurdodau; yr oll trwyddo ef ac erddo ef, ydynt wedi eu creu.