Colossians 1:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
at yr ei ’sy yn Colosse, Sainct æ a’ ffyddlon vroder in‐Christ: Rat vo y gyd a chwi, a’ thangneddyf y gan Dduw ein Tat, a’ chan yr Arglwyð Iesu Christ. Yr Epistol y xxiiij. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
at y saint a’r brodyr ffyddlawn yng Nghrist, y rhai sydd yn Colossa: gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
at y saint yng Ngholosae a’r brodyr ffyddlon yng Nghrist; gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
At y saint a'r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
At bobl Dduw yn Colosae sy'n ddilynwyr ffyddlon i'r Meseia: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad yn ei roi i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
at y saint yn Colosae, rhai ffyddlon yng Nghrist. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
at y saint a'r ffyddlawn frodyr yng Nghrist Iesu yn Colossa: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd.