Colossians 1:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ thrwyddo ef gysyliaw pop dim yddo yhun, a’ heddychu trwy waed y groc ef b ai petheu yn y ddaiar, b ’ai petheu yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a Thrwyddo Ef gymmodi pob peth ag Ef Ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed Ei groes Ef, ïe, Trwyddo Ef, pa un bynnag ai’r pethau ar y ddaear, ai’r pethau yn y nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a thrwyddo ef lwyr gymodi pob dim ag ef ei hun, wedi gwneuthur heddwch drwy waed ei groes — trwyddo ef — pa un bynnag ai pethau ar y ddaear ai pethau yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yn cymodi popeth ag e'i hun trwyddo — pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thrwyddo ef, ar l gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a thrwyddo ef gymmodi pob peth iddo ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed ei Groes, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.