Colossians 1:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chwi theu yr ei oeðech gynt ddyeithreit a’ gelynion, can vot eich meddyliae ar weithredoeð drwc, yr awrhon hefyt a gysyliawdd ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwychwi a oeddych gynt wedi ymddieithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwithau, a oedd gynt wedi ymddieithrio ac yn elyniaethus eich meddwl mewn gweithredoedd drwg, yn awr a lwyr gymododd ef
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy, mae wedi'ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi eich gwneud chi'n ffrindiau iddo'i hun
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwithau, y rhai oeddych gynt wedi ymddyeithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg,