Colossians 1:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s aro s wch, wedy ’ech sailio ach ffyrfhau yn y ffydd, ac na’ch ysmuder ywrth ’obaith yr Euangel, am yr hon y clywsoch son, ac a precethwyt i bop creatur a’r ’sydd y dan y nef ir hon ydd yw vi Paul yn wenidawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn ddiargyhoedd ger Ei fron, os parhewch yn y ffydd, wedi eich seilio ac yn ddiymmod, ac heb eich symmud ymaith oddiwrth obaith yr Efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greedigaeth y sydd tan y nef, i’r hon y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
os arhoswch yn y ffydd, wedi eich sylfaenu ac yn ddiysgog a heb fod yn symud oddi wrth obaith yr efengyl a glywsoch, a gyhoeddwyd ymhlith pob creadur dan y nef, ac y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog iddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a'r sydd dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae'r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma'r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. A dyna'r gwaith dw i, Paul, wedi ei gael i'w wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'n rhaid ichwi barhau yn eich ffydd, yn gadarn a diysgog, a pheidio symud oddi wrth obaith yr Efengyl a glywsoch. Dyma'r Efengyl a bregethwyd ym mhob rhan o'r greadigaeth dan y nef, a'r Efengyl y deuthum i, Paul, yn weinidog iddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
os parhêwch yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sefydlu, ac heb eich bod yn symmud ymaith oddiwrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greadigaeth dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog.