Colossians 1:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
sef y dirgelwch oedd cuddiedic er ys oes oesoedd, ac er ys oll genedlaethae, ac yr awrhon a eglurwyt y’w Sain t t æ ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd, a rhag y cenhedlaethau; ond yn awr yr eglurwyd ef i’w saint Ef,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y dirgelwch a guddiwyd oddi wrth yr oesoedd ac oddi wrth y cenedlaethau — eithr yn awr a amlygwyd i’w saint,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i'w saint ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r cynllun dirgel gafodd ei gadw o'r golwg am oesoedd a chenedlaethau lawer, ond sydd bellach wedi ei ddangos i bobl Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
sef y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd ac ers cenedlaethau, ond sydd yn awr wedi ei amlygu i'w saint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
sef y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd a rhag y cenhedlaethau, ond yn awr a eglurwyd i'w saint ef,