Colossians 1:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
er pan glywsam son am eich ffydd in‐christ Iesu, ac am eich cariat ar yr oll Sainct æ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan weddïo yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad y sydd genych tuag at yr holl saint;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi clywed ohonom am eich ffydd chwi yng Nghrist Iesu a’r cariad sydd gennych tuag at yr holl saint
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i'r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy'n credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan weddio yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, a'r cariad yr hwn sydd gennych tuag at yr holl saint,