Colossians 1:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hon ’sy wedi dyvot yd atochwi, megis ac ir oll vyt, ac yn ffrwythawn val y mae yn eich plith chwi the hefyt, o’r dydd hwn y clywsoch, ac y gwir wybuoch ’rat Duw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hon a ddaeth attoch, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, yn yr un modd ag yn eich plith chwi er y dydd y clywsoch am, ac y gwybuoch, ras Duw mewn gwirionedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
sydd wedi dyfod atoch, megis y mae yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth a chynyddu fel y mae ynoch chwithau hefyd, o’r dydd y clywsoch am ras Duw a’i wir adnabod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae'r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy'r byd i gyd, a dyna'n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i'w ddeall yn iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
sydd wedi dod atoch. Y mae'r Efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy'r holl fyd, yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o'r dydd y clywsoch am ras Duw a'i amgyffred mewn gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hon a ddaeth attoch chwi, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, megys y mae hefyd ynoch chwithau, er y dydd y clywsoch ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd;