Colossians 1:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys paam ni nheu hefyt, er y dydd hvvn y clywsam, ny d ym yn peidiaw a gweddiaw trosoch, ac erchi ar ych cyflawny o wybyddieth y wyllys ef, ym‐pop doethinep, a’ dyall ysprytawl,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd hyn, nyni hefyd er y dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch chwi, ac â deisyf y’ch cyflawner â gwybodaeth Ei ewyllys Ef ymhob doethineb a deall ysprydol,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd hyn ninnau hefyd, o’r dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch a deisyf eich cyflenwi â gwybodaeth o’i ewyllys ef ym mhob doethineb a dirnadaeth ysbrydol,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni'n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a'ch gwneud chi'n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio gweddo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, ni pheidiwn a gweddio ar eich rhan, a deisyf eich llenwi â llawn‐wybodaeth o'i ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysprydol,