Colossians 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CAn ys wyllisiwn y chwi wybot pa veint ymdrech ’sy arnaf er eich mwyn chvvi, ac er yr ei o Laodiceia, ac er mvvyn yr ei ny welsant veu wynep yn‐cnawt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys ewyllysio yr wyf i chwi wybod cymmaint ymdrech sydd arnaf trosoch chwi a’r rhai yn Laodicea, a chynnifer ag na welsant fy ngwyneb yn y cnawd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd ewyllysiaf i chwi wybod cymaint fy ymdrech drosoch a thros y rhai yn Laodicea a’r sawl na welodd fy wyneb yn y cnawd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i'n gweithio drosoch chi a'r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf am ichwi wybod cymaint yw fy ymdrech drosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea, a phawb sydd heb fy ngweld wyneb yn wyneb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr wyf yn ewyllysio i chwi wybod cymmaint fy ymdrech drosoch chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynnifer ni welsant fy wyneb i yn y cnawd,