Colossians 2:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn yr hwn hefyt ich enwaedwyt ac enwaediat ny d o waith llaw, gan ym ddyosc y pechaturus gorph y cnawt, trwy enwaediad Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn yr Hwn hefyd yr amdorrwyd arnoch ag amdorriad nid o waith llaw, wrth ddodi ymaith gorph y cnawd, yn amdorriad Crist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y’ch enwaedwyd ynddo hefyd ag enwaediad nid o waith llaw drwy fwrw ymaith gorff y cnawd yn enwaediad Crist,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau'r cnawd, yn enwaediad Crist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth ddod ato fe, cawsoch eich ‛enwaedu‛ yn yr ystyr o dorri gafael y natur bechadurus arnoch chi. (Dim y ddefod gorfforol o enwaedu, ond yr ‛enwaediad‛ ysbrydol mae'r Meseia yn ei gyflawni.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ynddo ef hefyd yr enwaedwyd arnoch ag enwaediad nad yw o waith llaw, ond yn hytrach o ddiosg y corff cnawdol; hwn yw enwaediad Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd âg enwaediad nid o waith llaw, mewn diosg corph y cnawd yn enwaediad Crist;