Colossians 2:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ys ich cyd claaddwyt y gyd ac ef trwy’r betydd, yn yr hwn hefyt ich cydgyfodwyt trwy ffydd gweithred iat Duw, yr hwn ay cyfodes ef o veirw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi eich claddu gydag Ef yn y bedydd, yn yr hwn y’ch cyd-gyfodwyd hefyd trwy ffydd yngweithrediad Duw, yr Hwn a’i cyfododd Ef o’r meirw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi eich claddu gydag ef yn y bedydd, ac y’ch cyd-gyfodwyd ynddo drwy ffydd yng ngweithrediad Duw a’i cyfododd ef o feirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a'i cyfododd ef o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth gael eich bedyddio cawsoch eich claddu gydag e, a'ch codi i fywyd newydd wrth i chi gredu yng ngallu Duw, wnaeth ei godi e yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Claddwyd chwi gydag ef yn eich bedydd, ac yn y bedydd hefyd fe'ch cyfodwyd gydag ef drwy ffydd yn nerth Duw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi eich cydgladdu gydag ef yn y Bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd‐gyfodwyd trwy ffydd yng ngweithrediad Duw, yr hwn a'i cyfododd ef o'r meirw.