Colossians 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chwi theu yr ei oeddech veirw ympechotae, ac yn‐ d ienwaediat eich cnawt, a gyd vywhaodd ef y gyd ac efo, gan vaddeu y‐ chwi eich oll gamweddae,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwychwi, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a diamdorriad eich cnawd, bywhaodd Efe chwi ynghydag Ef, wedi maddeu i ni ein holl gamweddau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chydag ef cydfywhaodd chwithau, a oedd yn feirw drwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd, wedi maddau inni yr holl gamweddau
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pobl baganaidd o'r cenhedloedd oeddech chi, yn farw'n ysbrydol o achos eich pechodau, ond gwnaeth Duw chi'n fyw gyda'r Meseia. Mae wedi maddau ein holl bechodau ni,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac er eich bod yn feirw yn eich camweddau a'ch cnawd dienwaededig, fe'ch gwnaeth chwi yn fyw gydag ef. Y mae wedi maddau inni ein holl gamweddau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwithau, gan fod yn feirw trwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd — chwychwi a gyd‐fywhâodd efe gydag ef, wedi maddeu i ni yr holl gamweddau,