Colossians 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ddilëu y llaw g raipht yr ordinadeu rhon oedd yn e in h erbyn, rhon oedd yn wrth wynep y ni, ys cymerth ef y hi y ar y ffordd, ac hei dodes yn‐glyn ar y groc,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi dileu yr ysgrifen mewn ordeiniadau, yr hon oedd yn ein herbyn; a hi a gymmerodd Efe allan o’r ffordd, gan ei hoelio wrth y groes;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dileu yr hyn a ysgrifennwyd yn yr ordeiniadau yn ein erbyn, y peth a oedd yn wrthwyneb i ni: hyn a ddug ef ymaith gan ei hoelio ar y groes,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac wedi canslo'r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e'i hun y ddogfen honno a'i hoelio ar y groes.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac wedi diddymu'r ddogfen oedd yn ein rhwymo i'r gofynion a'n gwni ni yn ddyledwyr. Y mae wedi ei bwrw hi o'r neilltu; fe'i hoeliodd ar y groes.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi dileu yr ysgrifen‐law mewn ordeiniadau, yr hon oedd yn ein herbyn, a'r hon a symmudodd efe i ffwrdd, gan ei hoelio wrth y Groes;