Colossians 2:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr ei nyd ynt any d gwascot petheu ar ddywot: eithr y corph ysydd in‐Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
neu ddydd-Sabbath; y rhai ydynt gysgod y pethau ar ddyfod; ond y corph, eiddo Crist yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cysgod ydynt hwy o’r pethau sydd i ddyfod, eithr y sylwedd sydd o Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd rheolau felly yn ddim byd ond cysgodion gwan o beth oedd i ddod — dim ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i'r peth go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cysgod yw'r rhain o'r pethau sy'n dod; Crist biau'r sylwedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai ydynt gysgod o bethau ar ddyfod, ond y sylwedd sydd eiddo Crist.