Colossians 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na vit i neb wrth ei wyllys eich llywo draethu gan ’ostyngeiddrwydd‐meddwl, ac addoli ad Angelion, gan ymgodi ym‐petheu ny’ s gwelawdd e erioed, ac yn an d osparthus yn ymchwyddaw gan veddwl ei gnawt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na fydded i neb eich yspeilio o’ch gwobr, o’i wirfodd, trwy ostyngeiddrwydd ac addoli angylion, gan sefyll ar y pethau na welodd, yn ofer-chwyddo gan feddwl ei gnawd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nac ysbeilied neb chwi o’ch gwobr, y sydd a’i fryd ar ostyngeiddrwydd ac addoli angylion, yn ymgywreinio ynglŷn â’r pethau a welodd, yn ofer ymchwyddo drwy ei feddwl cnawdol,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch gadael i unrhyw un sy'n cael boddhad o ddisgyblu'r hunan eich condemnio chi. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n gallu mynd i bresenoldeb yr angylion sy'n addoli Duw, ac yn mynd i fanylion ynglŷn â beth maen nhw wedi ei weld. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na phawb arall, ond does dim byd ysbrydol am eu syniadau gwag nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch chymryd eich gwahardd gan ddyfarniad neb sydd 'i fryd ar ddiraddio'r hunan, ac ar addoli angylion ar sail ei weledigaethau. Meddwl cnawdol sy'n peri i rai felly ymchwyddo heb achos,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nac yspeilied neb chwi o'ch gwobr, gan ymhyfrydu mewn gostyngeiddrwydd ac addoliad angylion, gan sefyll ar y pethau a welodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan feddwl ei gnawd,