Colossians 2:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eb gyf attal y pen, o’r hwn y mae yr oll gorph wedy ’r drefnu ai gom p oni gan gymmal æ a’ chyf rwymae, yn cynnyddu gan gynnyð Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac heb ddal ei afael yn y Pen, o’r Hwn y mae’r holl gorph, yn cael ei gyflenwi a’i gyd-gyssylltu trwy’r cymmalau a’r cyssylltiadau, yn cynnyddu â chynnydd Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a heb ddal gafael yn y Pen, o’r hwn y mae yr holl gorff, gan gael ei gynnal a’i gydgordeddu drwy y cymalau a’r gewynnau, yn cynyddu yng nghynnydd Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac heb gyfatal y Pen, o'r hwn y mae'r holl gorff, trwy'r cymalau a'r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o'r corff yn cael ei ddal gyda'i gilydd gan y cymalau a'r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac nid oes ganddynt afael ar y pen. Ond oddi wrth y pen y mae'r holl gorff yn cael ei gynnal a'i gydgysylltu trwy'r cymalau a'r gewynnau, ac felly'n prifio phrifiant sydd o Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac heb ddal ei afael yn y Pen, o'r hwn y mae yr holl gorph, gan gael ei gyflenwi a'i gyd‐gyssylltu trwy y cymmalau a'r gewynau, yn cynnyddu â chynnydd Duw.