Colossians 2:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hyn betheu yn ddiau ’sydd yddyn ac ailun doethinep, yn wyllys greffydd ac huvylltot‐meddwl, ac nyd yn eiriach y corph: ac ny d yw mewn dim bri ganthynt er cyflawnedd ir cnawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai sydd a chanddynt yn wir rith doethineb mewn addoliad gwirfoddol a gostyngeiddrwydd a diarbedrwydd y corph, nid mewn neb rhyw werth o ran digonedd y cnawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae gan y cyfryw bethau air eu bod yn ddoethineb ar gyfrif defodau hunan-osodedig a gostyngeiddrwydd a thriniaeth ddiarbed corff eithr nid ydynt mewn anrhydedd er llwyr fodloni’r cnawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni'r cnawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle fod rheolau o'r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai — defosiwn haearnaidd, disgyblu'r corff a'i drin yn llym — ond dŷn nhw'n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae i'r fath bethau enw doethineb, gyda'u crefydd wneud, eu hunanddiraddiad, a'u triniaeth lem o'r corff. Ond nid ydynt o unrhyw werth i atal cnawdolrwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y cyfryw bethau sydd ganddynt yn wir rith doethineb mewn addoliad hunan‐osodol, a gostyngeiddrwydd, a thriniaeth ddiarbed o'r corph, heb fod o un gwerth yn erbyn boddhâd y cnawd.