Colossians 2:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cyd bwyf ancydrychiol yn y cnawt, er hyny ydd wyf gyd a chwi yn yr yspryt yn llawenechu, ac yn gweled eich trefn, a’ ffyrfder eich ffydd in‐Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os yn y cnawd yr wyf absennol; er hyny, yn yr yspryd, gyda chwi yr wyf, yn llawenychu a gweled eich trefn a dianwadalwch eich ffydd yng Nghrist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os wyf absennol yn y corff, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, gan lawenhau wrth weled eich trefn chwi a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er fy mod i ddim gyda chi, dw i'n meddwl amdanoch chi drwy'r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi'n byw ac mor gadarn ydy'ch ffydd chi yn y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, er fy mod yn absennol yn y cnawd, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenhau wrth weld eich rhengoedd disgybledig a chadernid eich ffydd yng Nghrist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys er fy mod yn absennol yn y cnawd, etto yr wyf gyda chwi yn yr yspryd, yn llawenychu a gweled eich trefn a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist.