Colossians 3:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
lle ny d oes na Groecwr nac Iuddew enwaediat, Barbariat, Scythiat, caeth, rhydd: eithr Christ ’sydd pop dim ym‐pop dim. Yr Epistol y v. Sul gwedyr Ystwyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn yr Hwn nid oes Groegwr ac Iwddew, amdorriad a diamdorriad, Barbariad a Scuthiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, y mae Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
lle nid oes Roegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth na rhydd, ond Crist yn bob peth ac ym mhob peth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‛farbariad di-addysg‛ neu'n ‛anwariad gwyllt‛; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a'r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy'n cyfri ydy'r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy'n credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
lle nid oes Groegwr ac Iuddew, Enwaediad a Dienwaediad, Barbariad, Scythiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, Crist sydd.