Colossians 3:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny megis etholedigiō Dew sanct eiddolion a’ charedigion, ymwiscwch o dirion drugaredd caredigrwyð, vvylltot‐ meddvvl, gwarder, dioðefgarwch:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhoddwch am danoch, gan hyny, megis etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, ymysgaroedd trugaredd, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir-ymaros,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch dosturi calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hirymaros,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw wedi eich dewis chi iddo'i hun ac wedi'ch caru chi'n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch am-danoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, gwisgwch am danoch, megys etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, galon tosturi, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir‐ymaros,