Colossians 3:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ymgynnal eu gylydd, a’ maddae y’w gylydd, as bydd gan vn gwerel yn erbyn neb: megis ac y maddeuawdd Christ i chwi, ys velly gvvnevvch chwi theu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a chan faddeu i’ch gilydd, os yw neb a chanddo gwyn yn erbyn neb; fel y bu i’ r Arglwydd faddeu i chwi, felly maddeuwch chwithau hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan gydymddwyn â’ch gilydd a maddau i’ch gilydd, o bydd gan un gwyn yn erbyn neb: ac megis y maddeuodd yr Arglwydd i chwi gwnewch chwithau hefyd yr un modd:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi'n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae'r Arglwydd wedi maddau i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gu373?yn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddeu i'ch gilydd, os oes gan neb gŵyn yn erbyn neb, fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd.