Colossians 3:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vch pen hyn oll gvviscvvch gariat, yr hwn yw rhwym yn y perfeithrwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thros yr holl rai hyn rhoddwch am danoch gariad, yr hwn yw cyd-gyssylltiad perffeithrwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
dros yr holl bethau hyn gwisgwch gariad, sy’n rhwymyn perffeithrwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd — mae cariad yn clymu'r cwbl yn berffaith gyda'i gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thros y rhai hyn oll gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.