Colossians 3:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thangneddyf Duw a lywodraetho yn eich calonae, yr hwn ich galwyt yn vn corph, a’ byddwch ddiolchgar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd mewn un corph; a byddwch ddiolchgar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thangnefedd Crist, y’ch galwyd iddo mewn un corff, a lywodraetho yn eich calonnau chwi; a byddwch ddiolchgar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i'r heddwch mae'r Meseia'n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi'ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti'r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corph; a byddwch ddiolchgar.