Colossians 3:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Preswiliet gair Christ ynoch yn ehelaeth ym‐pop doethinep, gan eich dyscu a’ chygcori eich hunain, yn psalmae, ac hym y nae ac odulae ysprytawl, a’ chanu gan rat yn eich calonae ir Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bydded i air Crist drigo ynoch yn oludog; ymhob doethineb yn dysgu a chynghori eich gilydd â psalmau, hymnau, ac odlau ysprydol; trwy ras yn canu yn eich calonnau i Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, gan ddysgu a rhybuddio eich gilydd ym mhob doethineb, yn canu gyda salmau, emynau, ac odlau ysbrydol, mewn diolchgarwch yn eich calonnau i Dduw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i'r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a'ch gwneud chi'n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio'ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Preswylied Gair Crist ynoch yn gyfoethog; ym mhob doethineb yn dysgu ac yn cynghori eich gilydd, mewn salmau, hymnau, ac odlau ysprydol, yn canu trwy ras yn eich calonnau i Dduw.