Colossians 3:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ pha beth bynac a wneloch ar ’air neu weithred, gvvnevvch bop dim yn Enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiol vv ch y Dduw’sef y Tat trwvddaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phob peth o’r a wneloch, ar air neu ar weithred, bydded yr oll yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddioch i Dduw Dad Trwyddo Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a pha beth bynnag a wneloch mewn gair neu weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dad drwyddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist — ie, popeth! — popeth dych chi'n ei ddweud a'i wneud. Dyna sut dych chi'n dangos eich diolch i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A pha beth bynnag a wneloch, mewn gair neu mewn gweithred, gwnewch yr oll yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dâd trwyddo ef.