Colossians 3:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y gweision, ymuvyddhewch ir ei ’sy yn arglwyddi ywch erwydd y cnawt ym‐pop dim, ny d a llygad-wasanaeth val ryngwyr bodd dynion, eithr yn sem p lrwydd calon, gan ofny Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y gweision ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ol y cnawd; nid â llygad-wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, gan ofni’r Arglwydd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwi weision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd, nid mewn llygad-wasanaeth fel rhai yn boddio dynion, eithr mewn unplygrwydd calon, a chwi yn ofni yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y gweision, ufuddhêwch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ol y cnawd, nid â llygad‐wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon yn ofni yr Arglwydd.