Colossians 3:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pā ymðangoso Christ, ’rhwn yw’n bywyt, yno hefyt yr ymddangoswch chwi theu y gyd ac ef yn‐gogoniant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan fydd i Grist Ei amlygu, ein bywyd ni, yna chwychwi hefyd a amlygir ynghydag Ef mewn gogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan amlyger Crist, ein bywyd ni, yna chwithau gydag ef a amlygir mewn gogoniant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y Meseia ydy'ch bywyd chi. Pan fydd e'n dod i'r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna yr amlygir chwithau hefyd gydag ef mewn gogoniant.