Colossians 4:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CHwi theu arglwyddi, gwnewch ich gweision, hyn ’sy gyfion, ac vnion, gan yvvch wybot vot y chwi hefyt Arglwydd yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y meistriaid, yr hyn sydd gyfiawn a chyfartalwch rhoddwch i’ch gweision, gan wybod fod genych chwithau hefyd Feistr yn y nef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwi feistriaid, rhoddwch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn a thegwch, gan wybod fod gennych chwithau Feistr yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi'r meistri fod yn gyfiawn ac yn deg wrth drin eich caethweision. Cofiwch fod gynnoch chithau Feistr yn y nefoedd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi feistri, rhowch i'ch caethweision yr hyn sy'n gyfiawn a theg, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y meistriaid, rhoddwch gyfiawnder a chyfartalwch i'ch gweision, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.