Colossians 4:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Epaphras gwas Christ, yr hwn’sy vn o hanoch, ’sydd ich anerch, ac yn ’oystastol yn ymdrino drosoch yn‐gweddieu, ar y‐chwy sefyll yn perfeith, ac yn gyflawn yn oll ’wyllys Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd o honoch, gwas i Iesu Grist, bob amser yn ymdrechu trosoch yn ei weddïau, ar sefyll o honoch yn berffaith, ac wedi eich llawn-berswadio yn holl ewyllys Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae Epaffras, un ohonoch, gwas Crist Iesu, yn eich cyfarch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau ar sefyll ohonoch yn berffaith ac wedi eich llawn sicrhau ym mhob peth a ewyllysio Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Epaffras yn anfon ei gyfarchion — un arall o'ch plith chi sy'n was i'r Meseia Iesu. Mae bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn gofyn i Dduw eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed, ac yn gwbl hyderus eich bod yn gwneud beth mae Duw eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Epaffras, sy'n un ohonoch, caethwas Crist Iesu, yn eich cyfarch. Y mae ef bob amser yn gweddo'n daer drosoch chwi, ar ichwi sefyll yn gadarn, yn gredinwyr aeddfed, ac yn gwbl argyhoeddedig ym mhob dim y mae Duw yn ei ewyllysio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd un o honoch, gwas Crist Iesu, gan fod mewn ymdrech meddwl yn wastadol drosoch yn ei weddiau, ar sefyll o honoch yn berffaith ac yn gwbl‐sicr yn holl ewyllys Duw;