Colossians 4:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan weddiaw hefyt drosom ni, ar y Dduw agori i ni ddrws yr ymadrodd, y adrodd y dirgelwch Christ: am yr hwn yddwyf hefyt yn rhwym edic,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan weddïo hefyd drosom ni, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r Gair, i lefaru dirgelwch Crist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan weddïo yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r gair, i lefaru dirgelwch Crist, yr wyf mewn rhwymau o’i blegid,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A gweddïwch droson ni hefyd, y bydd Duw yn rhoi cyfle i ni rannu'r neges am y Meseia, ac esbonio'r dirgelwch amdano. Dyma pam dw i yn y carchar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gweddwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan weddio yr un pryd hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agoryd i ni ddrws y Gair, i lefaru dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd yn rhwym,