Colossians 4:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rodiwch yn ddoeth tu at yr ei ’n ys y dd allan, a’ phrynwch yr amser.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddiallan, gan brynu’r amser.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynu yr amser.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu'r amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi'n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i rannu gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynnu yr amser.