Colossians 4:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Byddet eich ymadrodd yn rhadlawn yn ’oystatawl, ac wedy ei gyfansoddi a’ halen, val y gwypoch atep i bop d un.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y dylech atteb i bob dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, er mwyn i chwi wybod pa fodd y dylech ateb pob rhyw un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwyppoch fel y dylech atteb i bob dyn.