Colossians 4:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y gyd ac Onesimus y ffyddlon a’ charedig avvl vrawt, yr hwn ’sy vn o hanoch. Yn h wy a espesant y’wch am bop peth ’sy yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ynghydag Onesimus y brawd ffyddlawn ac anwyl, yr hwn sydd o honoch. Yr oll a hyspysant i chwi, o ran y pethau sydd yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gydag Onesimus, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy’n un ohonoch, chwi. Hysbysant hwy i chwi bob peth sy’n digwydd yma.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i wedi anfon Onesimws gydag e, brawd ffyddlon ac annwyl arall sy'n un ohonoch chi. Byddan nhw'n dweud wrthoch chi am y cwbl sy'n digwydd yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daw Onesimus gydag ef, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy'n un ohonoch chwi. Fe gewch yr holl hanes oddi yma ganddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gydag Onesimus, y ffyddlawn a'r anwyl frawd, yr hwn sydd un o honoch chwi. Hwy a hyspysant i chwi yr holl bethau yma.