Daniel 10:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y'm hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Daniel,” meddai, “rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw i'n mynd i'w ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fi'n sefyll ar fy nhraed, ond ron i'n dal i grynu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd wrthyf, "Daniel, cefaist ffafr; ystyria'r geiriau a lefaraf wrthyt, a saf ar dy draed, oherwydd anfonwyd fi atat." Pan lefarodd wrthyf, codais yn grynedig.