Daniel 10:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o'r tywysogion pennaf, a ddaeth i'm cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog brenhinoedd Persia.