Daniel 10:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi, Daniel, yn unig a welodd y weledigaeth; ni welodd y rhai oedd gyda mi mohoni, ond daeth arnynt ddychryn mawr a ffoesant i ymguddio.