Daniel 11:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna bydd ei feibion yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bydd ei feibion yn ymbaratoi i ryfel ac yn casglu mintai gref o filwyr; ac fe ddaw un ohonynt a rhuthro ymlaen fel llif a rhyfela hyd at y gaer.