Daniel 11:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a'r ysbeilwyr o'th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de. Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pryd hwnnw bydd llawer yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de, a therfysgwyr o blith dy bobl di yn codi, ac felly'n cyflawni'r weledigaeth, ond methu a wnnt.