Daniel 11:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na'i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daw brenin y gogledd a gwarchae ar ddinas gaerog a'i hennill. Ni fydd byddinoedd y de, na'r milwyr dewisol, yn medru ei wrthsefyll, am eu bod heb nerth.