Daniel 11:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o'i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd, a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd ei wrthwynebydd yn gwneud fel y myn, ac ni saif neb o'i flaen; bydd yn ymsefydlu yn y wlad hyfryd, a fydd yn llwyr dan ei awdurdod.