Daniel 11:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a'r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Nawr, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wir yn mynd i ddigwydd: Mae tri brenin arall yn mynd i deyrnasu ar Persia. Ac wedyn pedwerydd, fydd yn llawer mwy cyfoethog na nhw i gyd. Bydd yn defnyddio ei gyfoeth i gael pawb i ymladd gydag e yn erbyn teyrnas y Groegiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr dywedaf y gwir wrthyt: cyfyd tri brenin arall yn Persia, ac yna pedwerydd, a fydd yn gyfoethocach o lawer na hwy i gyd, ac fel yr ymgryfha trwy ei gyfoeth bydd yn cyffroi pawb yn erbyn brenhiniaeth Groeg.