Daniel 11:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ar ôl hwnnw bydd dyn cwbl ffiaidd yn cymryd yr orsedd — er mai nid fe oedd yn yr olyniaeth. Bydd yn llwyddo i gipio grym yn gwbl ddi-drafferth drwy gynllwyn a thwyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn ei le ef cyfyd un dirmygus, ond ni roddir iddo ogoniant brenhinol. Yn ddirybudd y daw, a chymryd y frenhiniaeth trwy weniaith.