Daniel 11:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gyfyd ei nerth a'i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd yn mynd ati i ddangos ei hun drwy godi byddin fawr yn erbyn brenin y de. Bydd brenin y de yn ymladd yn ei erbyn gyda byddin fwy fyth, ond ddim yn llwyddo am fod cynllwyn yn ei erbyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Mewn nerth a balchder fe ymesyd byddin fawr ar frenin y de, a daw yntau i ryfel byddin fawr a chref iawn; ond ni fedr barhau, am fod rhai yn cynllwyn yn ei erbyn.