Daniel 11:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn DUW y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd y brenin yn gwneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na'r duwiau i gyd; a bydd yn dweud pethau hollol warthus yn erbyn y Duw mawr. A bydd yn llwyddo i ddianc, nes bydd y cyfnod o ddigofaint wedi dod i ben. Mae beth sydd wedi ei benderfynu yn mynd i ddigwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y brenin yn gwneud fel y myn, yn ymorchestu ac yn ymddyrchafu uwchlaw pob duw, ac yn cablu Duw y duwiau. Bydd yn llwyddo hyd ddiwedd y llid, oherwydd yr hyn a ordeiniwyd a fydd.