Daniel 11:39 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn ymosod ar ganolfannau milwrol eraill gyda help duw estron. Bydd yn anrhydeddu'r rhai sy'n ildio iddo. Bydd yn rhoi awdurdod iddyn nhw ac yn rhannu'r tir rhyngddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn gorfodi pobl duw dieithr i amddiffyn ei gaerau, yn rhoi anrhydedd i'r rhai sy'n ei gydnabod, yn gwneud iddynt lywodraethu dros y lliaws, ac yn rhannu tir iddynt am bris.