Daniel 11:41 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaw i'r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o'i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn goresgyn y Wlad Hardd. Bydd llawer o wledydd yn cael eu concro, ond bydd Edom, Moab ac arweinwyr Ammon yn cael dianc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daw i'r wlad hyfryd, a chaiff llawer eu difa; ond bydd rhai, fel Edom a Moab a gweddill Ammon, yn dianc o'i afael.