Daniel 11:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cryfha brenin y deau, ac un o'i dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn bydd brenin y de yn dod i rym. Ond bydd un o'i swyddogion ei hun yn gryfach, ac yn codi yn ei erbyn. Bydd ei deyrnas e yn fwy fyth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd brenin y de yn gryf, ond bydd un o'i dywysogion yn gryfach nag ef ac yn llywodraethu ar ymerodraeth fwy na'r eiddo ef.